Mae’r dull lleihau niwed o ddefnyddio sylweddau yn seiliedig ar ymrwymiad cryf i egwyddorion iechyd y cyhoedd. Mae’r dull yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gost-effeithiol pan gaiff ei gyflwyno mewn ffordd wedi’i thargedu at leihau’r niwed a’r risgiau i unigolyn a’r gymuned y maent yn byw ynddi.
Mae lleihau niwed yn:
- bragmatig.
- Mae’n blaenoriaethu nodau.
- Mae’n seiliedig ar werthoedd dyneiddiol.
- Mae’n canolbwyntio ar risgiau a niwed.
- Nid yw’n canolbwyntio’n bennaf ar ymatal, ond mae’n cynnwys adfer fel rhan o ystod o nodau a chanlyniadau dros amser.
- Mae’n ceisio cynyddu’r ystod o opsiynau ymyrraeth sydd ar gael i’r eithaf.
- Mae’n hwylusol yn hytrach nac yn orfodol, ac wedi’i seilio ar anghenion unigolion.
Yn aml, gellir trefnu nodau ac amcanion penodol polisi ac ymyriadau lleihau niwed mewn hierarchaeth gyda’r opsiynau mwy ymarferol i’r unigolyn ar un pen (e.e. mesurau i gadw pobl yn iach) ac opsiynau llai ymarferol ond dymunol ar y pen arall. Gellir ystyried ymatal yn opsiwn anodd ei gyflawni ond dymunol ar gyfer lleihau niwed mewn hierarchaeth o’r fath. Y brif flaenoriaeth yw cadw pobl sy’n defnyddio cyffuriau ac alcohol yn fyw ac atal niwed na ellir ei wella.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 01/07/2025
Adolygiad nesaf: 31/07/2025