Sut i leihau niwed wrth ddefnyddio sylweddau
Cyngor ar leihau niwed

Meddwl ymlaen llaw
  • Yr unig ffordd o osgoi’r holl risgiau yw peidio â chymryd unrhyw gyffuriau nad ydynt wedi’u rhagnodi ar eich cyfer. Meddyliwch yn ofalus am y peryglon cyn i chi ddechrau.
  • Gwnewch yn siŵr fod rhywun arall gyda chi, yn ddelfrydol rhywun y gallwch ymddiried ynddo i ofalu amdanoch os aiff pethau o chwith.
  • Ceisiwch fwyta’n dda, gorffwys ac yfed digon o hylif cyn dechrau defnyddio cyffuriau. Byddwch chi’n teimlo’n well ar ôl y sesiwn. Osgowch alcohol neu ddiodydd egni os yn bosibl.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod beth rydych chi’n ei brynu. Disgrifiwch yr hyn rydych chi ei eisiau, gan gynnwys yr effeithiau rydych chi’n ceisio eu cael o’r cyffur, a gweld a yw hyn yn cyd-fynd â’r hyn y mae’r gwerthwr yn ei gynnig. Os ydych chi’n mynd at werthwr newydd, byddwch yn arbennig o ofalus a gofynnwch gwestiynau am y cynnyrch, yn enwedig os yw’n edrych, yn arogli neu’n blasu’n wahanol i’r hyn rydych chi wedi arfer ag ef.
  • Cariwch gondomau fel nad ydych yn cael rhyw heb ddiogelwch. Mae cyffuriau ac alcohol yn codi’r awydd am ryw ond yn lleihau perfformiad, gan wneud orgasm yn anos i’w gyrraedd i’r ddau ryw. Gall hyn arwain at ryw mwy egnïol, yn enwedig wrth ddefnyddio cyffuriau adfywiol, a all achosi i gondom rwygo. Felly gwnewch yn siŵr fod gennych gondomau sbâr ac iraid sy’n seiliedig ar ddŵr.
Cymysgu cyffuriau
  • Mae cymysgu unrhyw gyffur â chyffur arall yn cynyddu’r risg o brofi sgîl-effeithiau peryglus. Mae hyn yn cynnwys alcohol.
  • Mae rhai cyffuriau yn arbennig o beryglus i’w cymysgu. Mae’r rhain yn cynnwys:
    • cocên ac alcohol;
    • opioidau (fel heroin neu forffin) a thawelyddion/iselyddion (fel bensos), alcohol neu opioidau eraill fel tramadol.
  • Mae cyffuriau presgripsiwn sy’n debygol iawn o achosi sgîl-effeithiau difrifol o’u cymryd ynghyd â chyffur anghyfreithlon neu gyffuriau yn cynnwys:
    • poenladdwyr (fel morffin, ocsicodone, co-codamol, tramadol);
    • gwrth-iselyddion (fluoxetine/Prozac, amitriptyline);
    • tawelyddion a thabledi cysgu (diazepam, nitrazepam, ffenazepam);
    • cyffuriau a ddefnyddir fel arfer ar gyfer epilepsi a phoen nerfol fel lyrica/pregabalin.
Cymryd cyffuriau
  • Dechreuwch yn isel a byddwch yn ofalus, yn enwedig os byddwch chi’n cymryd cyffur nad ydych erioed wedi’i ddefnyddio o’r blaen. Cymerwch ychydig bach ar y dechrau a gadewch i’r cyffur gyrraedd brig ei effaith i brofi pa mor gryf ydyw. Cofiwch, gallwch chi bob amser gymryd mwy yn nes ymlaen – allwch chi byth fynd yn ôl a chymryd llai.
  • Cofiwch fod gwahanol gyffuriau’n gweithredu ar wahanol gyflymder, ac nid yw ymateb araf o reidrwydd yn golygu bod y cyffur yn wan – gall olygu eich bod wedi cymryd cyffur sy’n gweithredu’n araf a allai fod yn gryf mewn gwirionedd. Gallai cymryd ail ddos arwain at orddos.
  • Cofiwch efallai nad yw cyffuriau sy’n edrych yn debyg yn cynnwys yr un cynhwysion. Mae’n bosibl y bydd gan bilsen neu bowdr sy’n edrych fel un a gymeroch yr wythnos diwethaf yn cynnwys cyffuriau hollol wahanol.
  • Mae’n bwysig yfed digon o ddŵr. Ceisiwch yfed tua pheint o hylif yr awr yn ystod y sesiwn. Osgowch alcohol gan ei fod yn achosi dadhydradu. Mae diodydd egni yn cynnwys llawer o gaffein a all gynyddu’r straen ar y galon. Mae yfed digon o ddŵr yn arbennig o bwysig mewn tywydd cynnes a heulog.
  • Gofalwch am eich ffrindiau. Mae’n iawn i ddweud wrth eich gilydd i gymryd pwyll; dyna beth mae ffrindiau da yn ei wneud. Peidiwch â gadael i unrhyw un fynd i ffwrdd ar ei ben ei hun. Os bydd unrhyw un yn mynd yn sâl arhoswch gyda nhw. Gall rhai pobl fynd yn ymosodol. Gall hyn fod yn arwydd bod rhywun wedi cymryd gormod a gallai fod yn arwydd o orddos.
  • Os oes gennych chi neu ffrind unrhyw symptomau sy’n peri pryder, ffoniwch am ambiwlans. Ceisiwch beidio â chynhyrfu, cadwch y sŵn i lawr a dywedwch wrth yr unigolyn eich bod chi yno i’w helpu. Os yw’r unigolyn yn anadlu fel arfer dylech ei annog i roi ei hun yn yr ystum adfer neu i gadw’n llonydd o leiaf.
Dod i lawr
  • Ceisiwch osgoi cymryd cyffuriau eraill i’ch helpu i ddod i lawr gan y gallai’r rhain ymestyn y cyfnod dod i lawr neu hyd yn oed achosi gorddos.
  • Ewch i rywle rydych chi’n teimlo’n ddiogel i ymlacio a chadwch rifau ffôn pobl y gallwch chi siarad â nhw yn eich ffôn os byddwch chi’n dechrau teimlo’n isel, yn ofnus neu’n sâl.
  • Mae rhai pobl yn cael meddyliau a theimladau hunanladdol ar ôl cymryd cyffuriau, yn enwedig ar ôl cymryd cyffuriau mewn pyliau. Os ydych chi’n poeni amdanoch chi’ch hun neu ddefnyddiwr arall, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n siarad â rhywun fel meddyg teulu, gwasanaeth camddefnyddio sylweddau neu wasanaeth iechyd meddwl ar unwaith.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 01/07/2025
Adolygiad nesaf: 31/07/2025