Defnyddio cyffuriau’n fwy diogel
Cyngor ar leihau niwed

Sniffio/snwffian (Aranadliad)
  • Defnyddiwch ddyfeisiau glân (sniffiwr) bob amser.
  • Defnyddiwch eich dyfais eich hun.
  • Peidiwch â rhannu dyfeisiau; efallai y bydd olion gwaed ar eich offer.
  • Snwffiwch yn uchel i fyny’r ffroen er mwyn osgoi’r meinweoedd meddal mwyaf sensitif.
  • Glanhewch y llwybrau trwynol yn ysgafn ar ôl eu defnyddio, gyda hances llaith neu ffon gotwm.
  • Defnyddiwch y ddwy ffroen bob yn ail er mwyn lleihau’r niwed i un ochr.
  • Os yw eich trwyn yn gwaedu – rhowch gorau iddi am ychydig.
Ysmygu
  • Ni ddylid rhannu offer ysmygu e.e. pibellau.
  • Wrth ysmygu, os yw’n bosibl, defnyddiwch ffoil a ddarparwyd gan gyfleusterau Cyfnewid Nodwyddau. Os nad yw hynny’n bosib, defnyddiwch ffoil tun. Peidiwch â defnyddio ffoil o ddeunydd pacio melysion gan eu bod yn aml yn cael eu gorchuddio â halogion.
  • Os ydych yn ysmygu sylweddau mewn sigarét neu sbliffs – defnyddiwch gerdyn heb ei gannu i wneud hidlwyr er mwyn osgoi anadlu sylweddau niweidiol i mewn o’r cerdyn.
  • Dylai defnyddwyr pibellau newid o ddefnyddio poteli neu ganiau plastig i ddefnyddio pibellau gwydr o ansawdd er mwyn osgoi anadlu lludw, paent, llwch, dŵr a gronynnau eraill i’r ysgyfaint.
Llyncu / Bomio
  • Mae cyffuriau adfywiol yn gawstig a gallent gyrydu meinweoedd meddal. Gallai hyn arwain at niwed i leinin y gwddf, yr oesoffagws a’r stumog. Llyncwch y cyffur o fewn capsiwl/papur sigarét.
Chwistrellu
  • Peidiwch â rhannu offer chwistrellu – mae hyn yn cynnwys dŵr, llwyau a hidlyddion yn ogystal â nodwyddau a chwistrelli. Mae’n arfer da i ddefnyddio hidlydd wrth lenwi chwistrelli.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon o nodwyddau ar gyfer pob chwistrelliad.
  • Defnyddiwch Safleoedd Chwistrellu Gwahanol.
  • Gwnewch yn siŵr fod unrhyw glwyfau’n cael eu trin cyn gynted ag sy’n bosibl.
  • Os oes gwres a chochni’n ymddangos ar y safle chwistrellu dylech geisio cyngor meddygol.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich offer yn addas ar gyfer y defnydd bwriadedig (http://www.kfx.org.uk/resources/NeedleSize1pp.pdf).
  • Dylech gael gwared ar nodwyddau a chwistrelli ail-law yn ddiogel.
Chwistrellu Steroidau a Chyffuriau Gwella Delwedd

 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 01/07/2025
Adolygiad nesaf: 31/07/2025