Cyffuriau penfeddwol cyfreithlon, cyffuriau clwb, cyffuriau labordy, sylweddau seicoweithredol…’ Mae marchnadoedd cyffuriau yn newid.
Gall fod yn anodd dod o hyd i wybodaeth gywir ac aros yn ddiogel. Mae Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS) yn profi sylweddau i roi gwybodaeth gyflym a chywir er mwyn lleihau niweidiau i ddefnyddwyr unigol ac eraill.
Mae WEDINOS yn brosiect lleihau niwed, sy’n darparu gwasanaeth dienw, ac yn adlewyrchu tueddiadau mewn defnyddio sylweddau. Mae’n bwysig felly bod samplau’n cael eu cyflwyno gyda ffurflen ‘Cofnod o’r Effeithiau’ wedi’i llenwi a gwybodaeth gywir am y cod post, gan gynnwys samplau o’r tu allan i Gymru. Nid yw hyn yn effeithio ar eich anhysbysrwydd.
