Amdanom ni

Prosiect WEDINOS

Mae WEDINOS yn darparu mecanwaith cadarn ar gyfer casglu a phrofi sylweddau seicoweithredol anhysbys neu newydd a chyfuniadau o sylweddau, yn ogystal â chynhyrchu a lledaenu cyngor pragmatig ar leihau niwed. Gall unrhyw un yng Nghymru nawr gyflwyno samplau i’w profi. Mae sefydliadau sy’n cymryd rhan, a all gefnogi unigolyn sy’n dymuno cyflwyno sampl, yn cynnwys gwasanaethau camddefnyddio sylweddau (Haenau 1-3), tai a hosteli, clybiau ieuenctid a gwasanaethau pobl ifanc, addysg, clybiau nos a bariau, timau cymunedol iechyd meddwl, Awdurdodau Lleol, y Gwasanaeth Ambiwlans a’r Heddlu. Yn ogystal, gall y sefydliadau hyn gyflwyno samplau sydd wedi’u canfod ar safle neu yn y gymuned.

Yn dilyn dadansoddi’r samplau, bydd gwybodaeth amserol a chywir am broffil cemegol y samplau a brofwyd ochr yn ochr â gwybodaeth bragmatig am leihau niwed, yn seiliedig ar y cynnwys a’r cyd-destun cyfreithiol, ar gael trwy amrywiol ddulliau gan gynnwys y wefan, rhybuddion iechyd trwy ddatganiadau i’r wasg a’r bwletin chwarterol ‘PHILTRE’.

Hanes

Dechreuodd y prosiect WEDINOS yn 2009 yn dilyn cynnydd mewn achosion mewn Adran Argyfwng yng Ngwent lle’r oedd y claf yn amlwg wedi cymryd cyffuriau, ond roedd y Clinigwyr (a’r claf) yn ansicr pa gyffur oedd wedi’i gymryd. Daeth tîm o dri at ei gilydd: Dyfeisiodd Dr David Caldicott (Ymgynghorydd Adran Argyfwng), Dr Alun Hutchings (Tocsicoleg) a Dr Andrew Westwell (Cemeg Fferyllol) fecanwaith anffurfiol lle gallai samplau o gyffuriau anhysbys a ddarparwyd gan gleifion gael eu profi yn Labordai Tocsicoleg Caerdydd, Ysbyty Athrofaol Llandochau. Cafodd y cyffuriau eu proffilio a dechreuwyd ar broses o fapio tueddiadau a niwed.

2013 ymlaen

Yn dilyn penderfyniad Dr Caldicott i ddychwelyd i Awstralia (lle mae ers hynny wedi sefydlu prosiect tebyg o’r enw ‘ACTINOS’), aeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, â’r gwaith cynnar yn ei flaen ynghyd â Dr Hutchings a Dr Westwell, ac ehangodd y prosiect i greu fframwaith cenedlaethol.

Y Tîm