Gellir ystyried lleihau niwed fel rhan annatod o adferiad. Yng Nghymru, diffinnir adferiad o ddefnyddio cyffuriau neu alcohol problematig fel proses sy’n galluogi unigolyn i wneud newidiadau sy’n gwella ansawdd ei fywyd. Mae strategaeth camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r broses a’r nod o adferiad fel “galluogi, annog a chefnogi camddefnyddwyr sylweddau i leihau’r niwed y maent yn ei achosi iddynt hwy eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau, a dychwelyd yn y pen draw a chynnal bywyd heb ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau”.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 01/07/2025
Adolygiad nesaf: 31/07/2025