Cyflwyno sampl â ffurflen Sampl ac Effeithiau

Gallwch gyflwyno sampl yn annibynnol ac yn ddienw i’w brofi gan WEDINOS trwy lawrlwytho, argraffu a llenwi’r ffurflen ‘Sampl ac Effeithiau’ a’i hanfon, ynghyd â’ch sampl cyffuriau i’r labordy Tocsicoleg.

Mae WEDINOS yn brosiect lleihau niwed, sy’n darparu gwasanaeth dienw, ac yn adlewyrchu tueddiadau mewn defnyddio sylweddau. Mae’n bwysig felly bod samplau’n cael eu cyflwyno gyda ffurflen ‘Cofnod o’r Effeithiau’ wedi’i llenwi a gwybodaeth gywir am y cod post, gan gynnwys samplau o’r tu allan i Gymru. Nid yw hyn yn effeithio ar eich anhysbysrwydd.

Ni fydd canlyniadau unrhyw samplau gyda chyfeirnodau a gynhyrchwyd ar y we (WXXXXXX) nad oes ganddynt ffurflen ‘Cofnod o’r Effeithiau’ wedi’i llenwi neu sy’n cynnwys gwybodaeth anghyson ynglŷn â’r cod post cywir yn cael eu cyhoeddi.

Cyflwyno eich sampl – cam wrth gam

  1. Cam 1:Diogelu’r sampl

    Os mai powdwr yw’r sampl, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i ddiogelu cyn ei roi mewn bag WEDINOS/cynhwysydd na fydd yn gollwng. Gellir diogelu’r sampl trwy ei lapio mewn papur, cling ffilm neu ffoil er enghraifft.

    Rhowch y sampl y tu mewn i fag WEDINOS neu gynhwysydd na fydd yn gollwng, fel bag polythen y gellir ei selio neu gynhwysydd na fydd yn caniatáu i’r cynnwys ridyllu ac yna ei selio.

    D.S. Dim ond un math o sampl y caniateir fesul bag sampl.

  2. Cam 2:Lawrlwythwch/argraffwch a llenwch y ffurflen Sampl ac Effeithiau

    Llawrlwytho ffurflen Sampl ac Effeithiau (PDF – 2.3MB)

    Atebwch bob cwestiwn, ysgrifennwch ‘Amherthnasol’ os oes unrhyw beth ‘ddim yn berthnasol’.

    Defnyddir yr adran effeithiau i gofnodi’r effeithiau a brofwyd, ar ôl defnyddio’r sampl yn unig. Os nad yw’r sampl wedi’i ddefnyddio eto, peidiwch â llenwi’r adran hon.

  3. Cam 3:Cynhyrchu cod cyfeirio

  4. Cam 4:Seliwch y ffurflen Sampl ac Effeithiau a’r sampl

    Rhowch y ffurflen Sampl ac Effeithiau ynghyd â’r sampl wedi’i selio mewn amlen ar wahân.

  5. Cam 5:Cyflwyno’ch sampl

    Postiwch eich sampl i:

    Prosiect WEDINOS
    Labordai Tocsicoleg Caerdydd
    4ydd Llawr, Canolfan Academaidd
    Ysbyty Prifysgol Llandochau
    Heol Penlan
    Penarth
    CF64 2XX

  6. Cam 6:Cael eich canlyniadau

    Bydd canlyniadau yn cael eu postio o fewn ychydig ddyddiau ar y dudalen canlyniadau sampl

    Rhowch eich rhif cod bar yn yr adran ‘Canlyniadau Sampl’ i gael eich canlyniadau.