Cyffur lladd poen a chyffur gwrthdwymynol anilin ysgafn, a ddefnyddir weithiau fel cyfrwng torri mewn cyffuriau cam-drin.
Un o'r cyffuriau lleddfu poen heb fod yn narcotig mwyaf adnabyddus. Paracetamol yw un o'r meddyginiaethau dros y cownter a ddefnyddir amlaf yn y DU, oherwydd ei gost-effeithiolrwydd a'i argaeledd i leddfu poen. Oherwydd lliw gwyn tabledi paracetamol, gellir eu defnyddio'n hawdd fel cyfrwng torri neu swmpuso mewn rhai cyffuriau cam-drin tebyg eu golwg, gan fod llawer sy'n cydymffurfio â'r disgrifiad "powdr gwyn" nodweddiadol.
Er ei fod ar gael yn eang iawn, mae ganddo botensial Gorddos. Mae dosau mawr yn achosi niwed i'r iau/afu a'r arennau. Gall yfwyr Alcohol rheolaidd, hyd yn oed yfwyr cymedrol, fod yn llai abl i oddef Paracetamol a bod mewn mwy o berygl o niwed i'r iau/afu o ddosau mwy o'r cyffur lladd poen.