Mae symptomau'n aml yn debyg i symptomau cyfansoddion amffetamin, ond gall yr effeithiau bara'n hirach. Gall y rhain gynnwys: ewfforia, mwy o fywiogrwydd, emosiynau dwysach a mwy o ymdeimlad o hunan-barch.
Mae effeithiau pellach yn cynnwys: curiad calon cyflym, crychguriadau'r galon, poen yn y frest, cynnwrf, chwysu gormodol (weithiau gydag arogl 'cemegol'), cur pen, cyfog, cryndod/crynu a phwysedd gwaed uchel.
Mae gorbryder, pendro, aflonyddwch cysgu, crensian dannedd, gwingo cyhyrau, diffyg canolbwyntio, iselder a cholli cof tymor byr hefyd yn gyffredin yn dilyn defnyddio symbylyddion, sy'n aml yn effeithio ar iechyd meddwl.
Mae confylsiynau, rhithwelediadau a brechau croen hefyd wedi'u crybwyll gan rai defnyddwyr. Gall llid trwynol a gwaedu o'r trwyn ddigwydd ar ôl ffroeni/sniffian o allwedd oherwydd natur gostig y cyffur. Yn yr un modd, gall llyncu/bomio'r cyffur arwain at niwed i leinin y gwddf a'r stumog, gan achosi poen yn y llwybr gastroberfeddol.
Mewn achosion difrifol, gall strôc, trawiadau ar y galon, methiant yr arennau a niwed i'r iau/afu ddigwydd ar ôl defnyddio amffetaminau a/neu gathinonau.