Mae'r grwp hwn o gyffuriau'n gweithio ar dderbynyddion canabinoid yn yr ymennydd a'r corff fel Tynhawyr Derbynyddion Canabinoid Synthetig (SCRA).
Yn lle gwybodaeth fanylach, dim ond y negeseuon lleihau niwed ehangaf y gellir eu cynnig. Gan gynnwys y canlynol:
- Byddwch yn ymwybodol y gall disgrifiad o'r cynnwys ar becyn unrhyw gyfansawdd fod yn gwbl annhebyg i'r cynnwys gwirioneddol. Er gwaethaf disgrifio cyfansoddion "llysieuol", mae'r deunydd seicoweithredol gwirioneddol fel arfer yn synthetig, nid yn llysieuol.
- Mae cryfder yn amrywio'n fawr iawn: dechreuwch gyda dos fach iawn (maint pen matsien neu lai) a chynyddwch y ddos yn ofalus yn unig, gan roi amser i'r dosau blaenorol ddiflannu.
- Mae rhai pobl yn dweud y gall cymysgeddau sy'n cynnwys cymysgedd o gemegau gwahanol gael sgil-effeithiau mwy annymunol a dylid eu defnyddio gyda gofal mawr yn unig.
- Byddwch yn ofalus IAWN ynglyn â defnyddio cyfansoddion o'r fath mewn bongs, pibellau neu fêps: mae'n anoddach rheoleiddio cymeriant ac yn hawdd cymryd gormod.
- Peidiwch â mynd i byliau o ddefnydd cystadleuol (e.e. mewn bongs bwced ac ati) gan fod risg uchel o orddos.
- Os ydych chi'n caffael canabinoidau synthetig powdr pur, defnyddiwch ddosau bach iawn yn unig, wedi'u cyfrifo gan ddefnyddio clorian ac wedi'u cymysgu'n drylwyr i'r deunydd ysmygu.
- Peidiwch â defnyddio ar y cyd â chyffuriau eraill, yn enwedig mathau eraill o ganabis, alcohol neu symbylyddion; Gall fod risg o broblemau gyda'r galon: mae'n well osgoi'r cyfansoddion hyn os oes gennych broblem gyda'r galon eisoes neu os ydych chi'n eu defnyddio ochr yn ochr â symbylyddion.
- Gan y gall canabinoidau synthetig waethygu gorbryder a pharanoia, defnyddiwch nhw mewn amgylchedd lle rydych chi'n teimlo'n ddiogel yn unig, gyda phobl rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw. Osgowch ddefnyddio os ydych chi'n dueddol o ddioddef o orbryder neu os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl eisoes.
- Os bydd panig neu orbryder yn digwydd, bydd triniaeth fel ar gyfer pwl o banig yn aml yn helpu i ddatrys symptomau – eistedd, pen i lawr, anadlu'n rheolaidd a thawelu'r meddwl. Fodd bynnag, efallai y bydd angen cymorth meddygol ar gyfer symptomau mwy difrifol, gan gynnwys ymddygiad lledrithiol neu drafferth anadlol.
- Os ydych chi'n cael cyfnod parhaus o guriad calon cyflym, neu'n cael poenau yn y frest, ffoniwch ambiwlans.
- Gall defnydd achosi gostyngiad, datblygiad goddefiad, dibyniaeth a symptomau diddyfnu. Os ydych chi'n defnyddio'r cyfansoddion hyn, peidiwch â'u defnyddio'n gyson a chymerwch seibiannau o'u defnyddio.
- Peidiwch â gyrru na gweithio peiriannau wrth ddefnyddio'r cyfansoddion hyn. (Pwyntiau bwled lleihau niwed wedi'u cymryd o friff KFX)
- Gwnewch yn siwr eich bod yn cael mwy o ddiwrnodau pan nad ydych yn defnyddio, na diwrnodau pan rydych chi'n defnyddio.
- Defnyddiwch mewn amgylchedd diogel gyda chwmni dibynadwy
- Dywedwch wrth rywun sydd gyda chi beth rydych chi'n ei gymryd