MDMA

Math
Seicoweithredol
Statws cyfreithiol
Dosbarth A
Goblygiadau cyfreithiol
Ni nodwyd
Cyfystyron
  • "Molly"
Gwybodaeth

Mae 3,4-Methylenedioxymethamphetamine (MDMA) yn ddeilliad methamffetamin cylch wedi'i amnewid. Mae ymhlith y sylweddau seicoweithredol hamdden mwyaf poblogaidd. Mae'n adnabyddus am ei effeithiau empathogenig, ewfforig, ac adfywiol, ac fe'i defnyddiwyd hefyd mewn seicotherapi. Mae MDMA yn achosi rhyddhau serotonin, ac i raddau llai dopamin, yn yr ymennydd. Mae'n adnabyddus am ei effeithiau empathogenig, ewfforig, ac adfywiol. - Os ydych chi'n mynd i gymryd ecstasi nad ydych chi'n gyfarwydd ag ef, dylech osgoi cymryd pilsen gyfan, a pheidiwch o gwbl â chymryd dwy ar yr un pryd. - Dechreuwch gyda hanner pilsen neu hyd yn oed chwarter pilsen ac aros o leiaf dwy awr cyn y ddos nesaf. - Cofiwch fod pils sy'n cael eu gwerthu fel ecstasi yn gallu cynnwys cyffuriau eraill fel PMA a all fod yn gryfach, para'n hirach a bod yn fwy peryglus. Gall PMA hefyd gymryd mwy o amser i gael effaith. Oni bai ei fod wedi'i brofi, ni allwch fod yn siwr beth rydych chi'n ei gymryd. - Cymerwch amser i ymlacio'n rheolaidd ac oeri i osgoi gorboethi. - Gall yr effeithiau fod yn fwy dwys os ydych chi'n ffroeni felly dechreuwch ag ychydig bach i weld sut mae'n effeithio arnoch chi. - Dylech osgoi cymysgu â chyffuriau iselydd, yn enwedig alcohol a all leddfu effeithiau ecstasi a chynyddu eich siawns o ddadhydradu. - Os yw'n teimlo'n wahanol i'r hyn rydych chi'n ei ddisgwyl, neu os nad ydych chi'n teimlo dim ar ôl aros yn hir (ni ddylai hyn ddigwydd gyda philsen MDMA), peidiwch â chymryd rhagor yn y gobaith y bydd cynyddu'r ddos yn cynyddu'r effeithiau seicoweithredol cadarnhaol. Peidiwch â chymryd rhagor o gynhyrchion sy'n gysylltiedig ag MDMA chwaith. - Wrth gymryd Ecstasi / MDMA peidiwch ag yfed gormod o ddwr. Sipiwch beint o ddwr yr awr ar y mwyaf. - Gwnewch yn siwr eich bod yn cael mwy o ddiwrnodau pan nad ydych yn defnyddio, na diwrnodau pan rydych chi'n defnyddio. - Defnyddiwch mewn amgylchedd diogel gyda chwmni dibynadwy. - Dywedwch wrth rywun sydd gyda chi beth rydych chi'n ei gymryd

Effeithiau tymor byr

Mae nodweddion cyffredin yn cynnwys yr hwyliau'n codi, ewfforia, tacycardia, gorbwysedd ysgafn, canhwyllau'r llygaid yn ymledu, ceg sych a chwysu. Weithiau, gall cyfog dros dro, gwasgu'r genau, dryswch, pendro, atacsia, nystagmws, poen yn yr abdomen a dolur rhydd ddigwydd. Gall defnyddio MDMA achosi nam ar y cof, diffyg canolbwyntio, aflonyddwch cwsg, ôl-fflachiau a rhithwelediadau. Mae iselder, pyliau o banig, gorbryder a seicosis hefyd wedi'u crybwyll.