Heroin

Math
Seicoweithredol
Statws cyfreithiol
Dosbarth C
Goblygiadau cyfreithiol
Ni nodwyd
Cyfystyron
  • Morphine diacetate
Gwybodaeth

Cafodd heroin (diacetylmorffin, diamorffin) ei syntheseiddio gyntaf o forffin ym 1874. Mae heroin yn gyffur opiad pwerus i ladd poen, sy'n creu ewfforia a difaterwch. Mae goddefiad o Heroin yn adeiladu'n gyflym, ac felly hefyd y ddibyniaeth gorfforol. - Ysmygu heroin ar ffoil yw'r ffordd fwyaf diogel o'i gymryd - Os dewiswch ei chwistrellu, peidiwch â chymryd eich heroin i gyd ar unwaith - Peidiwch â chymysgu Heroin â chyffuriau eraill, yn enwedig iselyddion CNS (y Brif System Nerfol) eraill, fel alcohol, bensodiasepinau neu dabledi cysgu neu opiadau/opioidau eraill - Bydd heroin yn lleihau eich chwant bwyd. Ceisiwch fwyta'n iawn - Cofiwch am Naloxone. Mae Naloxone yn wrthweithydd tymor byr sy'n gwrthdroi effeithiau heroin ac opiadau eraill fel morffin a gall achub bywydau http://www.naloxonesaveslives.co.uk - Ceisiwch beidio â'i ddefnyddio bob dydd os nad ydych chi'n ddibynnol. Gwnewch yn siwr eich bod yn cael mwy o ddiwrnodau pan na ydych chi'n defnyddio, na diwrnodau pan rydych yn defnyddio. - Defnyddiwch mewn amgylchedd diogel gyda chwmni dibynadwy - Dywedwch wrth rywun sydd gyda chi beth rydych chi'n ei gymryd - Mae'r rhan fwyaf o farwolaethau heroin yn digwydd o ganlyniad i chwistrellu - Mae risg llawer uwch wrth chwistrellu, o ddal firws a gludir yn y gwaed fel HIV neu hepatitis C a haint trwy fotwliaeth neu anthracs.

Data marwolaeth

Mae nifer y marwolaethau yng Nghymru sy'n ymwneud â heroin/morffin yn 2023 wedi cynyddu'n sylweddol, o 64 o farwolaethau a gofrestrwyd yn 2022 i 102 yn 2023.

Effeithiau tymor byr

Mae risg o oddefiad a gorddos yn bodoli a gall problemau hefyd godi o amhureddau os caiff heroin ei chwistrellu. Mae effeithiau eraill yn cynnwys: cyfogi, chwydu, hunllefau, gorbryder, cynhyrfu, ewfforia, dysfforia, iselder, paranoia, rhithwelediadau, pendro, cur pen, colli cydsymudiad; yn ogystal â risgiau o chwistrellu, fel cornwydydd a chrebachiad y gwythiennau.

Effeithiau hirdymor

Dibyniaeth ac mewn defnyddwyr hirdymor gall fod risg o fethu â gofalu am y corff fel arfer gan fod heroin yn gyffur lladd poen ac atalydd chwant bwyd effeithiol iawn. Mae arferion chwistrellu ansteril yn cynyddu'r risg o glefydau a gludir yn y gwaed fel Septisemia, Hepatitis C, a HIV. Mae cymhlethdodau defnyddio heroin mewnwythiennol cronig yn cynnwys clefyd yr iau/afu (Edland, 1972), gorbwysedd yr ysgyfaint (Kurtzman, 1970) a briwiau ar y nerfau ymylol (Richter et al., 1973). Yn ogystal, ni ellir gwarantu purdeb cyffuriau stryd; gall amhureddau a/neu ddifwynwyr arwain at gymhlethdodau annodweddiadol. Mae chwistrellu heroin amhur - mae cyfraddau purdeb nodweddiadol y DU yn amrywio o 10% i 40% - yn gallu niweidio system gylchrediad y gwaed, gan arwain at gornwydydd, wlserau, thrombosis, ac ati.