Defnyddir Diazepam meddygol i drin aflonyddwch, iselder, tensiwn a gorbryder, i ysgogi cwsg, i lacio'r cyhyrau, fel cyffur gwrth-gonfylsiwn ac anhwylderau seiciatrig.
Yn y DU mae nifer o sypiau o diazepam MSJ ffug, ac adroddir bod y ffugion hyn yn cyrraedd o Sweden, India, Pacistan, Sri Lanka, De Affrica a Gwlad Groeg. Mae rhai cyffuriau ffug o ansawdd gwael ac yn haws sylwi arnyn nhw, tra bod rhai'n ymddangos yn broffesiynol iawn.