Amphetamine

Math
Seicoweithredol
Statws cyfreithiol
Dosbarth B
Goblygiadau cyfreithiol
Ni nodwyd
Cyfystyron
Gwybodaeth

Mae amffetamin yn deillio o ffenethylamin sympathomimetig gyda gweithgaredd adfywiol canolog amlwg. Fel cyffur stryd, mae amffetamin fel arfer ar ffurf powdr gwyn, llwyd, melynaidd neu binc neu fel sylwedd tebyg i bwti o'r enw 'base'. - Llyncu / Bomio: Mae cyffuriau adfywiol yn llosgyddion a gallan nhw gyrydu meinweoedd meddal. Gall hyn arwain at niwed i leinin y gwddf, yr oesoffagws a'r stumog. Llyncwch mewn capsiwl/papur sigarét - Ceisiwch beidio â chwistrellu. Gall chwistrellu amffetamin fod yn gorfodaethol. Os byddwch chi'n chwistrellu – Peidiwch â rhannu offer, gwnewch yn siwr bod digon o nodwyddau ar gyfer chwistrellu dro ar ôl tro. Mae amffetamin fel arfer yn isel o ran ei burdeb, ac os caiff ei chwistrellu dylid ei hidlo'n ofalus. - Ceisiwch beidio â defnyddio cyffuriau eraill, fel bensodiasepinau, i ddod i lawr. Bydd y cyfnod dod i lawr yn mynd heibio heb ddefnyddio mwy o gyffuriau. - Cofiwch bwysigrwydd maeth a hydradu. Mae amffetaminau yn atalyddion chwant bwyd a gallan nhw achosi i'r corff orboethi a chwysu. - Gall defnyddio amffetamin achosi i chi grensian eich dannedd a'ch genau. Dylech gnoi gwm i helpu i osgoi difrod i'r dannedd. - Mae defnyddio cyffuriau adfywiol wedi dod yn boblogaidd iawn; gall defnyddio mwy nag un cyffur adfywiol ar y tro roi cryn straen ar eich calon. - Peidiwch â chymysgu amffetaminau ag atalyddion monoamin ocsidas (MAOI), maen nhw'n cynnwys: moclobemid, ffenelsin, isocarbocsasid a tranylcypromin ac maen nhw ar gael mewn amryw o enwau brand gwahanol. - Gwnewch yn siwr eich bod yn cael mwy o ddiwrnodau pan nad ydych chi'n defnyddio, na diwrnodau pan rydych chi'n defnyddio. - Defnyddiwch mewn amgylchedd diogel gyda chwmni dibynadwy - Dywedwch wrth rywun sydd gyda chi beth rydych chi'n ei gymryd

Effeithiau tymor byr

Gall amffetamin achosi effeithiau ewfforia, bywiogrwydd, mwy o egni, atal chwant bwyd, mwy o effrogarwch ac eglurder meddwl, a gall hefyd ddwysáu emosiynau a hybu hunan-barch. Yn ogystal, gall amffetaminau achosi cryndod, chwysu, canhwyllau'r llygaid yn ymledu, cynnwrf, dryswch, cur pen, gorbryder, chwydu, poen yn yr abdomen, trawiadau, rhithwelediadau neu rithdybiau. Gall poen yn y frest, crychguriadau'r galon, diffyg anadl, pwysedd gwaed systemig uchel neu isel ddigwydd. Mae tacycardia cymhleth cul yn gyffredin; gall tacycardia fentriglaidd neu ffibriliad fentriglaidd ddigwydd. Gall gordwymyn fod yn ddifrifol. Gall asidosis metabolig ddigwydd hefyd.

Effeithiau hirdymor

Seicosis, dibyniaeth seicolegol