Alprazolam

Math
Seicoweithredol
Statws cyfreithiol
Dosbarth C
Goblygiadau cyfreithiol
Ni nodwyd
Cyfystyron
  • Xanax
Gwybodaeth

Ffurf ar bensodiasepin yw alprazolam. Defnyddir alprazolam i drin anhwylderau gorbryder a phanig.

Effeithiau tymor byr

Mae bensodiasepinau yn aml yn achosi cysgadrwydd, atacsia, dysarthria a nystagmws. Coma, pwysedd gwaed isel, bradycardia a gostyngiad anadlol weithiau. Mae effeithiau gostyngiad anadlol bensodiasepin yn fwy difrifol mewn cleifion â chlefyd rhwystrol cronig difrifol ar y llwybrau anadlu. Mae effeithiau difrifol mewn gorddos hefyd yn cynnwys rhabdomyolysis a hypothermia. Mae cyd-lyncu alcohol a thawelyddion eraill y brif system nerfol yn cryfhau effeithiau bensodiasepinau ac yn gallu cynyddu'r gwenwyndra.