Diazepam

Math
Seicoweithredol
Statws cyfreithiol
Dosbarth C
Goblygiadau cyfreithiol
Ni nodwyd
Cyfystyron
  • Valium
Gwybodaeth

Defnyddir Diazepam meddygol i drin aflonyddwch, iselder, tensiwn a gorbryder, i ysgogi cwsg, i lacio'r cyhyrau, fel cyffur gwrth-gonfylsiwn ac anhwylderau seiciatrig. Yn y DU mae nifer o sypiau o diazepam MSJ ffug, ac adroddir bod y ffugion hyn yn cyrraedd o Sweden, India, Pacistan, Sri Lanka, De Affrica a Gwlad Groeg. Mae rhai cyffuriau ffug o ansawdd gwael ac yn haws sylwi arnyn nhw, tra bod rhai'n ymddangos yn broffesiynol iawn.

Effeithiau tymor byr

Mae'r cyffur yn achosi ymlacio, llai o orbryder, cysgadrwydd ac ewfforia, ond mae sgil-effeithiau'n bosibl fel penysgafnder, colli cydsymudiad, colli cof difrifol, ymddygiad ymosodol, cysgadrwydd, cur pen a dryswch hefyd. Mae risgiau eraill yn cynnwys damweiniau neu risg gorddos os caiff ei gyfuno ag alcohol neu gyffuriau eraill. Ni fydd defnyddwyr cyflenwadau anghyfreithlon yn gwybod cryfder yr hyn yr oedden nhw'n ei gymryd ac efallai y byddan nhw'n cymryd gormod. Mae cyd-lyncu alcohol a thawelyddion eraill y brif system nerfol yn cryfhau effeithiau bensodiasepinau ac yn gallu cynyddu'r gwenwyndra.

Effeithiau hirdymor

Agoraffobia, pyliau o banig, gorbryder difrifol.