Mephedrone

Math
Seicoweithredol
Statws cyfreithiol
Dosbarth B
Goblygiadau cyfreithiol
Ni nodwyd
Cyfystyron
  • "Drone"
Gwybodaeth

Mae meffedron yn symbylydd synthetig sydd ag effeithiau empathogenig. Mae meffedron yn deillio o fethcathinon, a all fod yn deillio o gathinon, un o'r cynhwysion actif yn y planhigyn khat. Fel arall, mae methcathinon wedi'i syntheseiddio o ffug-effedrin, a ddefnyddir yn gyffredin fel moddion llacio mewn paratoadau dros y cownter. Fel arfer caiff y cyffur ei chwythu ('ffroeni' a/neu ei gymryd trwy'r geg (e.e. wedi'i lapio mewn papur sigaréts ('bomio')) neu mewn toddiant, ond gellir ei gymryd yn fewnwythiennol hefyd. Mae goddefiad o feffedron yn datblygu'n gyflym – gan arwain at awydd i gymryd mwy o gyffur nag a roddwyd yn flaenorol. - Cyfyngwch ar y ddos. Dechreuwch gydag ychydig bach a gadewch o leiaf 1 awr cyn cymryd ail ddos - Rheolwch faint rydych chi'n ei gymryd mewn un sesiwn. Gosodwch derfyn i chi'ch hun a glynwch wrtho (mae defnyddwyr yn cynghori peidio â chymryd mwy na ½ gram mewn 24 awr) - Peidiwch â'i gymysgu gyda chyffuriau eraill/alcohol - Gall ffroeni meffedron fod yn niweidiol iawn i du mewn y trwyn. - Llyncu / Bomio: Mae cyffuriau adfywiol yn llosgyddion a gallan nhw gyrydu meinweoedd meddal. Gall hyn arwain at niwed i leinin y gwddf, yr oesoffagws a'r stumog. Llyncwch mewn capsiwl/papur sigarét - Peidiwch â chymysgu meffedron â meddyginiaeth gwrth-iselder, yn enwedig atalyddion monoamin ocsidas (MAOI), maen nhw'n cynnwys: moclobemide, phenelzine, isocarboxazid a tranylcypromine ac maen nhw ar gael mewn amryw o enwau brand gwahanol. - Os oes gennych unrhyw hanes o broblemau gyda'r galon, cylchrediad y gwaed neu bwysedd gwaed, fe'ch cynghorir i osgoi meffedron. - Ceisiwch osgoi chwistrellu, - Mae defnyddio cyffuriau adfywiol wedi dod yn boblogaidd iawn; gall defnyddio mwy nag un cyffur adfywiol ar y tro roi cryn straen ar eich calon. - Gwnewch yn siwr eich bod yn cael mwy o ddiwrnodau pan nad ydych yn defnyddio, na diwrnodau pan rydych chi'n defnyddio. - Defnyddiwch mewn amgylchedd diogel gyda chwmni dibynadwy - Dywedwch wrth rywun sydd gyda chi beth rydych chi'n ei gymryd

Effeithiau tymor byr

Mae symptomau'n aml yn debyg i symptomau cyfansoddion amffetamin, ond gall yr effeithiau bara'n hirach. Gall y rhain gynnwys: ewfforia, mwy o fywiogrwydd, emosiynau dwysach a mwy o ymdeimlad o hunan-barch. Mae effeithiau pellach yn cynnwys: curiad calon cyflym, crychguriadau'r galon, poen yn y frest, cynnwrf, chwysu gormodol (weithiau gydag arogl 'cemegol'), cur pen, cyfog, cryndod/crynu a phwysedd gwaed uchel. Mae gorbryder, pendro, aflonyddwch cysgu, crensian dannedd, gwingo cyhyrau, diffyg canolbwyntio, iselder a cholli cof tymor byr hefyd yn gyffredin yn dilyn defnyddio symbylyddion, sy'n aml yn effeithio ar iechyd meddwl. Mae confylsiynau, rhithwelediadau a brechau croen hefyd wedi'u crybwyll gan rai defnyddwyr. Gall llid trwynol a gwaedu o'r trwyn ddigwydd ar ôl ffroeni/sniffian o allwedd oherwydd natur gostig y cyffur. Yn yr un modd, gall llyncu/bomio'r cyffur arwain at niwed i leinin y gwddf a'r stumog, gan achosi poen yn y llwybr gastroberfeddol. Mewn achosion difrifol, gall strôc, trawiadau ar y galon, methiant yr arennau a niwed i'r iau/afu ddigwydd ar ôl defnyddio amffetaminau a/neu gathinonau.

Effeithiau hirdymor

Gall ôl-effeithiau fel anhunedd bara nifer o oriau neu ddiwrnodau.