Gallwch gyflwyno sampl yn annibynnol ac yn ddienw i’w brofi gan WEDINOS trwy lawrlwytho, argraffu a llenwi’r ffurflen ‘Sampl ac Effeithiau’ a’i hanfon, ynghyd â’ch sampl cyffuriau i’r labordy Tocsicoleg.
Mae WEDINOS yn brosiect lleihau niwed, sy’n darparu gwasanaeth dienw, ac yn adlewyrchu tueddiadau mewn defnyddio sylweddau. Mae’n bwysig felly bod samplau’n cael eu cyflwyno gyda ffurflen ‘Cofnod o’r Effeithiau’ wedi’i llenwi a gwybodaeth gywir am y cod post, gan gynnwys samplau o’r tu allan i Gymru. Nid yw hyn yn effeithio ar eich anhysbysrwydd.
Ni fydd canlyniadau unrhyw samplau gyda chyfeirnodau a gynhyrchwyd ar y we (WXXXXXX) nad oes ganddynt ffurflen ‘Cofnod o’r Effeithiau’ wedi’i llenwi neu sy’n cynnwys gwybodaeth anghyson ynglŷn â’r cod post cywir yn cael eu cyhoeddi.
Cyflwyno eich sampl – cam wrth gam
1
Cam 1:Diogelu’r sampl
DangosCuddio
Os mai powdwr yw’r sampl, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i ddiogelu cyn ei roi mewn bag WEDINOS/cynhwysydd na fydd yn gollwng. Gellir diogelu’r sampl trwy ei lapio mewn papur, cling ffilm neu ffoil er enghraifft.
Rhowch y sampl y tu mewn i fag WEDINOS neu gynhwysydd na fydd yn gollwng, fel bag polythen y gellir ei selio neu gynhwysydd na fydd yn caniatáu i’r cynnwys ridyllu ac yna ei selio.
D.S. Dim ond un math o sampl y caniateir fesul bag sampl.
2
Cam 2:Lawrlwythwch/argraffwch a llenwch y ffurflen Sampl ac Effeithiau
Atebwch bob cwestiwn, ysgrifennwch ‘Amherthnasol’ os oes unrhyw beth ‘ddim yn berthnasol’.
Defnyddir yr adran effeithiau i gofnodi’r effeithiau a brofwyd, ar ôl defnyddio’r sampl yn unig. Os nad yw’r sampl wedi’i ddefnyddio eto, peidiwch â llenwi’r adran hon.
3
Cam 3:Cynhyrchu cod cyfeirio
DangosCuddio
Cod cyfeirio wedi’i gynhyrchuRoedd gwall wrth gynhyrchu cod cyfeirio.
Eich cod cyfeirio yw:
Ysgrifennwch y Cod Cyfeirio yn glir ar y bag sampl/cynhwysydd.
Ysgrifennwch y Cod Cyfeirio hwn yn glir ar frig y ffurflen Sampl ac Effeithiau.
Gwnewch nodyn o’r cod hwn – byddwch ei angen i gael eich canlyniadau.
4
Cam 4:Seliwch y ffurflen Sampl ac Effeithiau a’r sampl
DangosCuddio
Rhowch y ffurflen Sampl ac Effeithiau ynghyd â’r sampl wedi’i selio mewn amlen ar wahân.