Zopiclone

Math
Seicoweithredol
Statws cyfreithiol
Dosbarth C
Goblygiadau cyfreithiol
Ni nodwyd
Cyfystyron
  • Lunesta
Gwybodaeth

Mae zopiclone yn dawelydd heb bensodiasepin o'r teulu cyffuriau cyclopyrrolone ac fe'i rhagnodir ar gyfer rheoli anhunedd difrifol yn y tymor byr. Mae ganddo effaith dawelu ac fe'i defnyddir i ysgogi cwsg am gyfnod byr. Gall rhai defnyddwyr falu'r tabledi i'w chwistrellu ond mae hyn yn brin oherwydd bod y dull hwn yn flêr ac yn beryglus iawn. Nid yw'r meddyginiaethau hyn yn hydoddi ac os ceisir eu chwistrellu mae'n debygol o achosi niwed i'r gwythiennau, gan arwain at gornwydydd, Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT), ymlediadau, wlserau a gwythiennau chwyddedig.

Effeithiau tymor byr

Anadlu a chyfradd y galon yn arafu, gweithrediad anadlol yn gostwng, potensial uchel ar gyfer camdriniaeth. Effrogarwch a gweithgarwch meddyliol isel, colli cof, colli cydsymudiad, amnesia, ymddygiad paranoiaidd ac ymddygiad ymosodol. Gorddos - mae'r risg hon yn cynyddu os caiff ei ddefnyddio gydag Alcohol, Opiadau neu Dawelyddion/Iselyddion eraill, risg o Goma a marwolaeth. Gall Zopiclone ryngweithio â nifer o feddyginiaethau eraill.

Effeithiau hirdymor

Dibyniaeth, risg o goma a marwolaeth. Mae ymchwil wedi dangos, hyd yn oed ar ddosau rhagnodedig, y gall defnydd hirfaith o zopiclone achosi canser a all effeithio ar yr ymennydd, yr ysgyfaint, y coluddyn, y fron a'r bledren. Gall zopiclone hefyd gael effaith andwyol ar y system imiwnedd gan gynyddu risg heintiau ac annwyd, ac nid yw'n cael ei argymell ar gyfer pobl â chlefyd yr iau/afu neu'r arennau, na menywod sy'n feichiog neu'n bwydo ar y fron.