Ketamine

Math
Seicoweithredol
Statws cyfreithiol
Dosbarth B
Goblygiadau cyfreithiol
Ni nodwyd
Cyfystyron
  • Ketalar
Gwybodaeth

Mae cetamin yn gysylltiedig yn strwythurol ac yn ffarmacolegol â phencyclidine. Mae cetamin yn gyffur seicedelig datgysylltiol a ddefnyddir yn feddygol fel anesthetig milfeddygol a dynol. Mae'r effeithiau'n dechrau'n gyflym. Fodd bynnag, mae'r effeithiau'n fyrhoedlog yn dilyn dos therapiwtig ac yn dibynnu ar y dull gweinyddu. Hwn yw un o'r ychydig gyffuriau seicedelig caethiwus. - Os ydych chi'n ffroeni, defnyddiwch y ddwy ffroen bob yn ail, a glanhewch eich ffroenau ar ôl pob sesiwn i leihau'r niwed. - Mae defnyddwyr rheolaidd yn datblygu goddefiad ac mae angen mwy o ddos i gael yr un effaith. - Mae risg o broblemau gyda'r bledren a niwed i'r arennau gyda defnydd rheolaidd. Dangoswyd bod defnyddio cetamin yn y tymor hir yn niweidio'r bledren a'r llwybr wrinol, gan achosi 'systitis cetamin' neu 'bledren cetamin'. - Mae cetamin yn amharu ar gydsymudiad, felly mae damweiniau bach fel taro yn erbyn pethau yn gyffredin. - Mae cetamin yn anesthetig ac oherwydd nad ydych chi'n teimlo unrhyw boen, rydych chi'n fwy tebygol o anafu'ch hun. - Peidiwch â chyfuno cetamin ag alcohol neu gyffuriau tawelydd eraill gan nad oes posibl rhagweld yr effeithiau a gallan nhw arwain at orddos. - Gwnewch yn siwr eich bod yn cael mwy o ddiwrnodau pan nad ydych yn defnyddio, na diwrnodau pan rydych chi'n defnyddio. - Defnyddiwch mewn amgylchedd diogel, yn enwedig os ydych chi'n ddefnyddiwr dibrofiad gan y gall eich lleoliad ddylanwadu ar eich trip. - Cofiwch sicrhau bod rhywun y gallwch chi ddibynnu arno gyda chi rhag ofn i bethau fynd o chwith. - Dywedwch wrth rywun sydd gyda chi beth rydych chi'n ei gymryd

Data marwolaeth

Adroddwyd am farwolaethau oedolion yn dilyn dosau o 500-1000 mg o'i gymryd yn fewnwythiennol (Long, 2003; Licata et al, 1994).

Effeithiau tymor byr

Mae effeithiau ysgafn defnyddio Cetamin yn cynnwys 'rhuthr' neu 'rush' cychwynnol gyda chyfog, chwydu, lleferydd aneglur, golwg aneglur, diffyg teimlad, pendro ac atacsia. Mae adweithiau niweidiol eraill i Cetamin yn cynnwys rhithwelediadau, deliriwm, ymddygiad afresymol, golwg aneglur, cyfog, chwydu, cysgadrwydd, colli cydsymudiad, dryswch, rhithwelediadau, datgysylltiad - teimladau 'allan o'r corff' gorbryder, pyliau o banig, symbyliad neu ostyngiad anadlol, tacycardia neu fradycardia, pwysedd gwaed uchel neu isel, trawiadau ac arhythmia cardiaidd. Mae parlys ac anystwythder cyhyrol wedi'u crybwyll lle na all y defnyddiwr symud na siarad ond mae'n gwbl ymwybodol ac yn gallu gweld.

Effeithiau hirdymor

Gall defnydd hirdymor amharu ar gof, dysgu a sylw. Mae ôl-fflachiadau wedi cael eu disgrifio. (Jansen, 1993). Mae camddefnyddio cetamin cronig wedi'i gymhlethu gan batholeg y llwybr wrinol isaf gan gynnwys llai o gapasiti gweithredol y bledren gyda chyhyrau'r bledren yn orfywiog, methiant arennol acíwt gyda hydroneffrosis dwyochrog o bosibl yn eilaidd i ffibrosis ôl-berfeddlennol (Chu et al, 2007) a systitis briwiol (Shahani et al, 2007).